Rhestr o Brosiectau LEADER

Thema 1: Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwydiannol

Dyma enghreifftiau o brosiectau y gellid eu cynorthwyo;

  • Peilota ffyrdd newydd o hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg a hyrwyddo’i gwerth economaidd, gan gynnwys cyfleoedd gwaith i siaradwyr Cymraeg a chynyddu’r nifer sy’n defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
  • Datblygiadau i’r gadwyn gyflenwi rhwng darparwyr twristiaeth, asedau treftadaeth a diwylliannol, y sector busnes ehangach a chymunedau lleol i wella cynnyrch a phrofiad twristiaeth.
  • Peilota ffyrdd arloesol o ddehongli asedau treftadaeth a diwylliannol, e.e. addasu i ddefnyddio technolegau digidol mewn ffyrdd newydd.
  • Datblygu gweithgareddau newydd yn ymwneud â’n hasedau naturiol.

Thema 2: Hwyluso datblygu cyn-fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr

Dyma enghreifftiau o brosiectau y gellid eu cynorthwyo;

  • Profi a pheilota ffyrdd newydd o wella cydnerthedd busnesau gwledig.
  • Prosiectau peilot sy’n creu diwylliant entrepreneuraidd.
  • Datblygu cadwyni cyflenwi a phartneriaethau busnes newydd.
  • Datblygu cynnyrch a/neu brosesau newydd.
  • Treialu dulliau newydd o baru pobl leol â chyfleoedd gwaith newydd.
  • Peilota ffyrdd arloesol i sicrhau bod addysg a hyfforddiant yn diwallu anghenion busnesau gwledig.

Thema 3: Ystyried ffyrdd newydd i ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol

Dyma enghreifftiau o brosiectau y gellid eu cynorthwyo:

  • Datblygu ffyrdd arloesol o gyflenwi gwasanaethau anstatudol.
  • Ymchwilio i ffyrdd arloesol o gyflenwi darpariaeth gofal plant fforddiadwy a dwyieithog, yn unol ag asesiad Sir Gaerfyrddin bod digon o ofal plant, a pheilota’r ffyrdd arloesol hynny.
  • Peilota ffyrdd newydd i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn ymwneud â’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau lleol e.e. bancio amser.
  • Hwyluso a pheilota ffyrdd arloesol o sicrhau mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Ymchwil ac ymweliadau ag enghreifftiau eraill o brosiectau sy’n dangos arferion gorau.

Thema 4: Ynni adnewyddadwy ar lefel gymunedol

Dyma enghreifftiau o brosiectau y gellid eu cynorthwyo:

  • Ymchwil i gynnyrch cynaliadwy sy’n gysylltiedig a sectorau amaeth/coedwigaeth e.e. biodanwyddau.
  • Dichonoldeb ynni adnewyddadwy cymunedol ac ar y fferm, drwy waith ymchwil, astudiaethau dichonoldeb, ymweliadau cyfnewid a pheilota.
  • Prosiectau sy’n hwyluso mynediad i gamau sy’n cynorthwyo effeithlonrwydd ynni i drigolion a busnesau mewn ardaloedd o dlodi tanwydd.
  • Prosiectau sy’n defnyddio adnoddau naturiol i gynnig atebion yn lleol.

Thema 5: Manteisio ar dechnoleg ddigidol

Dyma enghreifftiau o brosiectau y gellid eu cynorthwyo:

  • Peilota dulliau newydd o gyflenwi gwasanaethau anstatudol gan ddefnyddio technolegau newydd.
  • Prosiectau sy’n treialu ffyrdd newydd i gynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio technolegau digidol mewn busnesau a chymunedau.
  • Prosiectau sy’n hwyluso a pheilota ffyrdd arloesol i fynd i’r afael ag allgáu digidol mewn cymunedau gwledig a sicrhau y gall y cyhoedd ddefnyddio technolegau digidol.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top