Building Pembrokeshire’s Capacity to Care

Busnes

Disgrifiad o'r Prosiect:

Bydd adeiladu Gallu i Ofalu, Sir Benfro yn defnyddio methodoleg Catalyddion Cymunedol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu rhwydwaith o ddarparwyr-meicro a mentrau cymdeithasol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau gofal, cymorth a lles lleol, hyblyg, o’r safon uchaf, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd yn rhoi gwir ddewis a rheolaeth i bobl dros eu gofal.

Bydd y prosiect 2-flynedd yn cefnogi sefydlu mentrau-meicro lleol neu fentrau cymdeithasol lleol i gynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal, cymorth a lles i alluogi pobl fyw’n annibynnol am gyfnod hwy yn eu cartrefi, ac yn eu cymunedau eu hunain.  Bydd y prosiect hefyd yn cyd-weithio ag egin-fentrau cymdeithasol neu fentrau cymdeithasol sefydledig, sydd eisiau gwella eu llywodraethu a’u harferion busnes a/neu ddatblygu gwasanaethau newydd i fodloni gofynion a nodwyd.  Yn ogystal, bydd y prosiect yn helpu comisiynwyr ac ymarferwyr gwasanaethau i ddeall beth sy’n rhaid newid (diwylliant, systemau a llwybrau). Yna, bydd yn ei helpu i wireddu’r newidiadau hynny er mwyn gweddnewid y modd y darperir gofal cartref a gwasanaethau cymorth yn Sir Benfro.

Canlyniadau’r Prosiect:

-        Cefnogi 174 o bobl

-        Wedi darparu 12,427 o oriau o ofal neu gymorth…

-        Neu 479 awr yr wythnos ar gyfartaledd

Am fwy o wybodaeth, gweler adroddiad o effaith Catalydd Gofal: https://drive.google.com/file/d/1em21VOK74D7-zxcdkNHW3kSH04O7U1TQ/view?usp=sharing 

‘’ Ar hyn o bryd, rydyn ni’n archwilio opsiynau cyllido i ehangu’r gefnogaeth ar gyfer micro-fentrau i Geredigion a Sir Gâr yn ogystal â Sir Benfro.”

Gwersi a Ddysgwyd:

  • Mae gan bobl leol ddiddordeb mewn creu micro-fenter
  • Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, maen nhw’n cael boddhad mawr o weithio fel hyn
  • Pobl yn gwerthfawrogi bod yn rhan o rwydwaith o gyfoedion
  • Mae galw a marchnad gref a chynyddol am yr hyn maen nhw’n ei gynnig
  • Mae pobl, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol wir yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan ficro-fentrau yn fawr

 

Manlyion Cyswllt:

Enw llawn:

Sue Leonard

Rhif Cyswllt:

01437 769422

Ebost: sue.leonard@pavs.org.uk
Links:

Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top