Pecyn Cymorth Gweddnewid Lleoedd (Cyngor Sir Penfro)

Busnes

Disgrifiad o'r Prosiect:

Nod y prosiect hwn yw datblygu presenoldeb ar y we, o fewn prif safle Cyngor Sir Penfro (CSP); ei ddiben fydd dylunio a chreu adnodd ar y we ar gyfer datblygu cymunedau.

Canlyniadau'r Prosiect:

Mae'r pecyn cymorth yn cynnig 'siop un stop' 24 awr hygyrch i gymunedau Sir Benfro sy'n galluogi unrhyw un sy'n cychwyn ar brosiect newydd neu'n datblygu un sy'n bodoli eisoes i gael ystod eang o wybodaeth a chyngor ar y we.  Mae hyn yn galluogi aelodau'r gymuned i ymwneud mwy ag adfywio lleol, gweithgareddau cymdeithasol a phrosiectau amgylcheddol.  Fe'i hysbyswyd drwy ymgynghori gan ddefnyddio holiaduron a chyfweliadau wyneb yn wyneb gydag aelodau'r gymuned, grwpiau cymunedol a swyddogion statudol a thrydydd sector sy'n gweithio gyda chymunedau.

Gwersi a Ddysgwyd:

Mae dyrannu dim ond dau ddiwrnod yr wythnos i'r prosiect hwn wedi bod yn broblem yng ngoleuni trefnu cyfarfodydd gydag aelodau, grwpiau a swyddogion prysur o'r gymuned ac mae wedi ymestyn y prosiect.

"Mae'r Pecyn Cymorth wedi cynnig 'siop un stop' 24 awr hygyrch i gymunedau Sir Benfro sy'n galluogi unrhyw un sy'n cychwyn ar brosiect newydd neu'n datblygu un sy'n bodoli eisoes i gael ystod eang o wybodaeth a chyngor.  Wrth i'r Pecyn Cymorth ddatblygu ymhellach bydd yn caniatáu i wahanol grwpiau cymunedol rwydweithio a rhannu eu profiadau, eu syniadau a'u hadnoddau.  Bydd hefyd yn cynnig enghreifftiau o brosiectau i ysbrydoli grwpiau a dangos arfer da."

Manylion Cyswllt:

Enw llawn:

Kevin Shales and Sinead Henehan

Rhif Cyswllt:

01437 775536 / 01437 775540

Ebost:

kevin.shales@pembrokeshire.gov.uk | Sinead.henehan@pembrokeshire.gov.uk

 

Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top