Polisi Preifatrwydd

Dechreuodd PLANED (Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro ar gyfer Menter a Datblygu) fel TCRI (Menter Wledig Taf a Chleddau), grŵp bach o wirfoddolwyr a oedd eisiau gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned yn Arberth. Heddiw, mae PLANED, sydd wedi’i leoli yn Arberth, Sir Benfro, yn rhannu arferion da gyda phobl o bob cwr o Ewrop ac ymhellach i ffwrdd.

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn nodi sut mae PLANED yn cael, yn storio ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch chi’n defnyddio neu’n rhyngweithio â’n gwefan(nau), neu pan fyddwn ni’n cael neu’n casglu eich gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd eraill. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn weithredol o fis Ionawr 2018 ac mae’n cynnwys y gwefannau: www.planed. org.uk; www.arwainsirbenfro.cymru ac unrhyw wefannau a fydd gan PLANED yn y dyfodol (nid yw dolenni eraill o fewn y safleoedd hyn i wefannau nad ydynt yn wefannau PLANED wedi’u cynnwys yn y polisi hwn).

Enw a chyfeiriad y sefydliad:

Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro ar gyfer Menter a Datblygu (PLANED)

Yr Hen Ysgol

Heol yr Orsaf

Arberth

Sir Benfro

SA67 7DU

Ffôn: 01834 860965

E‐bost: information@planed.org.uk

Mynediad dienw i ymwelwyr

Gallwch fynd i hafan ein gwefannau a chwilio drwy ein safleoedd heb ddatgelu eich data personol.

Casglu Gwybodaeth

Nid ydym yn cofnodi data personol yn awtomatig nac yn cysylltu gwybodaeth sydd wedi’i chofnodi’n awtomatig gan ddulliau eraill gyda data personol am unigolion penodol. Rydym yn casglu’r data personol rydych chi’n ei roi o’ch gwirfodd wrth ddefnyddio ein gwefannau.

At ddibenion gweinyddol a busnes yn unig y defnyddiwn ddata personol (yn benodol i gysylltu â chi ac at ddibenion hysbysebu a dadansoddol, mewn cysylltiad â’n hawliau a’n rhwymedigaethau cyfreithiol ac at ddibenion ychwanegol penodol gyda’ch caniatâd clir chi yn unig). Os ydym yn dymuno defnyddio eich data personol at ddiben newydd, rydym yn cynnig cyfle i chi roi eich caniatâd ar gyfer y diben newydd hwn drwy gysylltu’n uniongyrchol â chi.

Datgeliad a dewis yr ymwelydd

Nid ydym yn datgelu eich data personol i sefydliadau eraill, oni bai bod angen gwneud hynny i redeg ein busnes, bodloni unrhyw gontract y byddwn yn ei wneud gyda chi a phan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu i orfodi ein hawliau cyfreithiol.

Mae’n ofynnol i bob un o’n gweithwyr a’n proseswyr data, sydd â mynediad at ddata personol, neu sy’n gysylltiedig â phrosesu data personol, barchu cyfrinachedd yr holl ddata personol.

Gallwch ofyn i ni a ydym yn cadw data personol amdanoch chi a gofyn am gopi o’r data hwnnw, trwy:

  • Anfon e‐bost i: info@planed.org.uk
  • Ysgrifennu at: Y Gweinyddwyr Data, PLANED i’r cyfeiriad uchod

Ar ôl cael eich cais, byddwn yn rhoi copi darllenadwy i chi o’r data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi o fewn 10 diwrnod gwaith, byddwn yn gofyn am brawf o’ch hunaniaeth cyn gwneud hynny. Byddwn yn darparu’r wybodaeth yn rhad ac am ddim.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data?

Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn hirach na’r angen, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol sydd gennym ac unrhyw sail gyfreithiol arall sydd gennym ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth bersonol, e.e: eich caniatâd, perfformiad contract gyda chi neu ein buddiannau cyfreithlon fel busnes.

Sut ydym yn diogelu eich gwybodaeth bersonol?

Rydym yn defnyddio mesurau technegol a threfniadol priodol megis storio eich gwybodaeth bersonol ar weinyddion diogel, amgryptio trosglwyddiadau data i neu oddi ar ein gweinyddwyr a rhoi mynediad i’ch gwybodaeth bersonol dim ond pan fod rhaid gwneud hynny.

Defnyddio Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan ond nid yw’r rhain at ddibenion dadansoddi neu dargedu.

Trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd

Ni fyddwn/efallai y byddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Os byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn sicrhau bod yna gamau diogelu priodol yn eu lle.

Eich hawliau mewn perthynas â’ch data personol

Mae gennych yr hawl i:

  • Gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol a chael gwybod am ei defnydd
  • Cywiro eich gwybodaeth bersonol
  • Mynnu ein bod yn dileu eich gwybodaeth bersonol
  • Cyfyngu ar y defnydd o’ch gwybodaeth bersonol
  • Gwrthwynebu i’r defnydd o’ch gwybodaeth bersonol
  • Cwyno i awdurdod goruchwylio
  • Tynnu eich caniatâd i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn ôl

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top