Research for Clynfyw Natural Therapy Health Centre


Gwasanaethau lleol

Disgrifiad o'r Prosiect:

Mae ein prosiect presennol yn cynnwys cynlluniau eco therapi mewn ffermydd a choetiroedd sy’n cefnogi pobl gydag amrywiaeth o anghenion synhwyraidd penodol a chymhleth sy’n dod atom dan y label anabledd dysgu. Hoffem ehangu’r maes hwn o’n gwaith, yn arbennig i’w wneud yn fwy gwerthfawr ar gyfer pobl sy’n gwella o salwch iechyd meddwl, trwy ddatblygu Gwasanaeth Iechyd Therapi Naturiol y gallwn ei ddatblygu, ac ehangu ein gwaith presennol, gyda ffocws llawer mwy trylwyr ar yr agweddau iechyd a gwellhad. Y prosiect yr ydym yn gobeithio ei ariannu trwy LEADER yw cyllido Astudiaeth Ddichonoldeb yn edrych ar y ffordd orau i ddatblygu’r Gwasanaeth yma. Rydym hefyd yn bwriadu creu ffilm fer a hygyrch y gellir ei defnyddio fel ffordd o gyflwyno’r cysyniad o Ganolfannau Iechyd Naturiol, yn arwain ymlaen at Astudiaeth Ddichonoldeb mwy trylwyr ac academaidd ar bapur

Cyllideb y Prosiect:

Cyfanswm o £20,500 gyda £14,999 yn arian LEADER

Canlyniadau’r Prosiect:

Cynhaliwyd Prosiect Ymchwil a datblygwyd Astudiaeth Ddichonoldeb dros gyfnod o 250 awr am chwe mis a alluogodd i ni ddatblygu’r syniad drwy ddilyn arfer gorau, gan gynnwys ymweliadau â phrosiectau Synhwyraidd eraill yn y DU.

Cynhaliwyd y prosiect yn ystod haf 2016 gyda 10 o ddiwrnodau gweithgareddau therapiwtig i bobl a fyddai’n elwa fwyaf o’r cynllun hwn. Cynhyrchwyd Llawlyfr Fferm Ofal i Ddechreuwyr hefyd. Mae’r prosiect wedi arwain at fwy o weithgareddau awyr agored ac mae gweithio gyda PCNPA bellach yn cynnig Yr Awyr Agored ar Stepen Eich Drws.

Y brif fantais oedd cysylltu gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, a’u galluogi i gyd i weithio mewn ffordd fwy cydlynol ac yn fwy effeithlon ac effeithiol.

“Mae caiacio a threulio amser yn yr awyr agored mewn unrhyw ffordd hamddenol, yn ffordd wych o wella iechyd meddwl a llesiant yn gyffredinol. Dangoswyd hynny gyda’r prosiect hwn a bydd yn cael ei ddefnyddio gennym ni, ac eraill yn y dyfodol. Roedd hefyd yn adnodd defnyddiol o gysylltu gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, sy’n ein galluogi ni i gyd i weithio mewn ffordd fwy cydlynol – yn fwy effeithlon ac effeithiol.”

Gwersi a Ddysgwyd:

Roedd gweithio gyda grwpiau eraill, er mwyn dod i gytundeb, yn anoddach na’r disgwyl.

Manylion Cyswllt:

Enw llawn:

Jim Bowen

Rhif Cyswllt:

01239841236 / 07980290522

Ebost: Jim.clynfyw@gmail.com

Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top