Inspiring Pathways

Gwasanaethau lleol

Disgrifiad o'r Prosiect:

Prosiect sydd wedi ei beiriannu i agor llwybrau rhwng gwahanol genedlaethau ymysg cyfoedion sy’n teimlo wedi eu heithrio’n gymdeithasol a chyflwyno pobl i asiantaethau eraill a allai ddelio gyda’u pryderon penodol.

Canlyniadau'r Prosiect:

Gweithiodd y prosiect hwn ledled Sir Benfro mewn cartrefi gofal preswyl, tai gwarchod a lleoliadau allgymorth eraill o Grymych, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Doc Penfro, Saundersfoot, Neyland, ac Abergwaun.  Galluogodd gyfres o weithdai lle daeth pobl at ei gilydd yn gymdeithasol, y mae gan lawer ohonynt anghenion cymhleth, gan gynnwys PTSD, caethiwed a materion iechyd meddwl. Roedd gan y sesiynau therapiwtig agweddau creadigol a chymdeithasol, a hefyd yn cyflwyno ac yn cyfeirio buddiolwyr at rwydwaith ehangach o asiantaethau cymorth.  Yn dilyn teithiau cerdded tirwedd, sgyrsiau a hyd yn oed gweithdai cerfluniol, gorffennodd gydag arddangosfeydd ym mhob lleoliad gan orffen gydag arddangosfa derfynol yn Oriel VC yn Hwlffordd.

Mae'r Oriel VC yn parhau â'i gwaith hanfodol gyda chyn-filwyr, pobl hŷn, plant, ac unrhyw un sy'n teimlo bod angen amser arnynt i gymdeithasu a mynegi eu hunain drwy gelf.  Symudodd y gweithdai ar-lein mewn ymateb i argyfwng Covid-19 ac maent yn agored i unrhyw un yn Sir Benfro.

"Grymuso pobl a chyfoethogi'r gymuned drwy ymgysylltu cymdeithasol, celf a chreadigrwydd."  Oriel VC

Gwersi a Ddysgwyd:

Mae adroddiad y seicolegydd ynghylch y prosiect Llwybrau Ysbrydoli yn nodi bod hyder cyfranogwyr wedi'i adeiladu drwy gydol y sesiynau a fynychwyd ganddynt, nid yn unig yn y gwaith celf a gynhyrchwyd ganddynt ond hefyd ynddynt eu hunain, sy'n tynnu sylw at effaith gadarnhaol y gweithdai. Roedd y cyfranogwyr yn gallu archwilio gwahanol fathau o gelfyddyd a chawsant gyfle i fynegi eu teimladau drwy eu gwaith celf, sy'n fath cydnabyddedig o therapi, yn enwedig os yw person yn delio â materion iechyd meddwl. Ceisiodd y prosiect hwn gynnwys oedolion hŷn a oedd yn teimlo eu bod wedi'u hallgáu'n gymdeithasol a rhoddodd y gweithdai gyfle i'r cyfranogwyr gymdeithasu a datblygu sgiliau newydd a oedd yn gwella lles cyffredinol y cyfranogwyr.

Manylion Cyswllt:

Enw llawn:

Barry John MBE

Rhif Cyswllt:

01437 765873 / 07450 206906

Ebost: barry@thevcgallery.com

Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top