PIP Gofal Solfach

Gwasanaethau lleol

Disgrifiad o'r Prosiect:

Mae’r prosiect PIP (Atal, Integreiddio, Partneriaeth) wedi’i anelu at ddatblygu a gweithredu model gofal cyflawn. Roedd y Prosiect wedi’i leoli yn Solfa, gyda PIP yn bwriadu bod o fudd i nifer cynyddol o bobl yn y gymuned drwy'r rhaglen gofal iechyd ataliol a datblygu gweithgareddau sydd wedi’u hanelu at ehangu nifer y bobl sy'n cymryd rhan.

Canlyniadau’r Prosiect:

  • Wedi cynnig cymorth a cefnogaeth i drigolion Solfa a chefnogi eu teuluoedd drwy system darparu gofal yn y gymuned
  • Wedi datblygu cyfeirlyfr o wasanaethau lleol a masnachwyr y gellir ymddiried ynddyn nhw
  • Wedi datblygu sesiynau cymorth a dysgu sgiliau TG i’r henoed ac wedi darparu hyfforddiant a chyngor TG yn ogystal â chyngor a chymorth i atal a lleihau’r risg o seiberdroseddu a thwyll mewn partneriaeth â’r Heddlu
  • Mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yr ymgysylltwyd â nhw, hwyluso gweithgareddau i wella llesiant o fewn y gymuned gan gynnwys mentrau amgylcheddol a bioamrywiaeth.

Gwersi a Ddysgwyd:

Mae’r prosiect wedi dangos cymhlethdod darpariaeth y GIG a Gofal Cymdeithasol a diffyg dull integredig gyda nodau, amcanion a chyllidebau cytûn. Mae pecynnau gofal yn anodd i’w cyflwyno mewn ardaloedd gwledig oherwydd prinder gofalwyr, amseroedd teithio hir a chyflogau gwael. Nid technoleg gwybodaeth yw'r ateb i bob problem; mae diffyg cysylltedd ac offer drud ymhlith y gynulleidfa oedrannus ac mewn ardaloedd difreintiedig yn broblem.

“Dywedodd Mollie Roach, Cadeirydd Gofal Solfa: “Caiff ein prosiect ei ystyried yn brosiect unigryw ac arloesol yn y DU. Fe’i disgrifir yn aml fel prosiect ‘o’r gwaelod i fyny’ oherwydd iddo gael ei sefydlu gan y gymuned, mewn ymateb i’r anghenion a fynegwyd gan y gymuned, i wella iechyd a llesiant”.

Manylion Cyswllt:

Enw llawn:

Mollie Roach

Rhif Cyswllt:

07807 091611

Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top