Cultural Heritage & Digitisation

Adnoddau naturiol a diwylliannol

Disgrifiad o'r Prosiect:

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cynnal ac yn gwella’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) rhanbarthol, a ddefnyddir ar gyfer amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys sail ar gyfer darparu cyngor amgylchedd hanesyddol i ystod eang o sefydliadau ac unigolion, ffynhonnell wybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol ar gyfer grwpiau cymunedol, cymdeithasau hanes/archaeolegol lleol, myfyrwyr, academyddion ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn archaeoleg a hanes. Mae’r wybodaeth yn cael ei chadw ar ffurf ddigidol yn bennaf, gyda’r data craidd ar gael yn gyhoeddus trwy wefan Archwilio – www.archwilio.org.uk. Cronfa ddata/gwefan sy’n seiliedig ar fapiau yw hon. Fodd bynnag, beirniadaeth gyffredin gan ddefnyddwyr y CAH yw ei bod hi’n anodd deall y data daearyddol, gan ei fod yn ddata ‘pwynt’ ac nid yn ddata polygonaidd. Mae hyn yn golygu bod heneb fawr, megis bryngaer, yn cael ei chynrychioli gan un dot ar y map yn unig, ac, oherwydd natur fympwyol cyfeirnodau grid, nid yw’r dot hwn bob amser dros yr heneb. Yn ddelfrydol, byddai maint daearyddol llawn yr heneb yn cael ei ddangos fel polygon.

Bydd y prosiect peilot hwn yn sefydlu’r fethodoleg a’r gweithdrefnau ar gyfer creu polygonau digidol o’r safleoedd a’r henebion a gofnodir ar Gofnod Amgylchedd Hanesyddol Dyfed, gan ddefnyddio’r arferion gorau sydd wedi’u datblygu mewn mannau eraill yn y DU ac Ewrop. Fel rhan o’r prosiect, ar ôl sefydlu’r fethodoleg a’r gweithdrefnau, bydd polygonau’n cael eu creu ar gyfer safleoedd a henebion mewn tair ardal cyngor cymuned yn Sir Benfro.

Canlyniadau’r Prosiect:

Ymhlith prif ganlyniadau’r prosiect oedd Cofnod Amgylchedd Hanesyddol haws ei ddeall ac felly’n fwy defnyddiol; amgylchedd hanesyddol sy'n cael ei gynnal, ei warchod a'i hyrwyddo'n well; hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn well na fydd yn effeithio ar yr amgylchedd. Llwyddodd y Prosiect i fynd i'r afael â'r mater o gymunedau nad ydynt yn deall cofnodion hanesyddol yn llawn a gweithiodd tuag at sicrhau bod cyngor cywir bellach yn cael ei roi drwy gofnodion gwell ar y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol. Roedd y prosiect hefyd yn cynnig cyfleoedd i unigolion gymryd rhan ac i ddysgu sgiliau digidol newydd. Fe wnaeth y prosiect agor cyfleoedd i wirfoddolwyr ddysgu sgiliau newydd, trosglwyddadwy a rhoi mwy o berchnogaeth i gymunedau ar asedau amgylchedd hanesyddol.

Gwersi a Ddysgwyd:

Mae tîm y Prosiect yn dweud wrthym y ‘byddai cynllun peilot mwy sy’n cwmpasu ardal ddaearyddol fwy wedi rhoi canlyniadau gwell ac wedi lleihau’r baich o greu llawer mwy o bolygonau digidol yn y dyfodol’.

‘Rydyn ni’n gobeithio y bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno ar draws De Orllewin Cymru, er ein bod yn sylweddoli y bydd hwn yn brosiect hirdymor. Mae'r peilot hwn wedi rhoi'r fethodoleg i ni.’’

Manylion Cyswllt:

Enw llawn:

Ken Murphy

Rhif Cyswllt:

01558 825991

Ebost: k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk

Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top