Trên Ffordd Cymunedol Bae Saundersfoot

Adnoddau naturiol a diwylliannol

Disgrifiad o'r Prosiect:

Prif nod y prosiect yw darparu gwasanaeth trên ffordd a fydd yn dod â budd i gymunedau lleol ac ymwelwyr, yn tynnu sylw at dwristiaeth, treftadaeth a diwylliant, yn cynyddu a hyrwyddo twristiaeth trwy’r ardaloedd lleol, ac yn cysylltu cymunedau a mwynderau. Wrth ddarparu atyniad twristiaeth arloesol, a hollol newydd, yn seiliedig ar dreftadaeth, bydd y prosiect yn gwella gwybodaeth am ein hanes lleol, a bydd yn gynaliadwy ac yn hygyrch i bawb.

Canlyniadau’r Prosiect:

Bwriad y trên tir oedd gwella’r profiad i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd, hyrwyddo twristiaeth a sicrwydd swyddi/busnesau a chreu cyfleoedd eraill yn y pentref; a'i nod oedd hyrwyddo'r gwaith o gysylltu a datblygu'r tair cymuned yn Saundersfoot, Amroth a Wiseman’s Bridge. Mae bod yn gwbl hygyrch yn golygu bod y trên wedi galluogi’r bobl hynny a oedd wedi’u heithrio’n y gorffennol, oherwydd anableddau corfforol a phroblemau symudedd, i fwynhau mynediad gwell at y pentref a’r ardal gyfagos.

Gweithiodd y Prosiect mewn ffordd gydweithredol gyda mwy o bartneriaethau yn cael eu sefydlu gyda Chyngor Sir Penfro, Edwards Coaches, Ymddiriedolaeth Treftadaeth ac Adfywio Bae Saundersfoot, Côr Meibion Dinbych-y-pysgod ac Ysgol Gynradd Saundersfoot.

Gwersi a Ddysgwyd:

Cafwyd oedi wrth dderbyn y cerbyd yn ogystal â’r cerbyd yn torri i lawr yn ystod y cyfnod prawf cychwynnol, ac fe wnaeth Covid-19 gyfyngu ar bethau yn ystod 2020 a 2021 a olygai nad oeddent yn gallu cynnig cerbyd yn ei le.

"Drwy fod yn gwbl hygyrch, bydd y trên yn galluogi’r bobl hynny a oedd wedi’u heithrio’n y gorffennol i fwynhau mynediad hawdd i’r pentref a’r ardal gyfagos’’

Manylion Cyswllt:

Enw llawn:

Susan Boughton-Thomas

Rhif Cyswllt:

01834 810002

Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top