Innovative Heritage

Treftadaeth Arloesol

Adnoddau naturiol a diwylliannol

Disgrifiad o'r prosiect:

Nod y prosiect Treftadaeth Arloesol yw mynd â mentrau treftadaeth gymunedol i’r cylch digidol ac i gynyddu gwaith eco-amgueddfa Rhwydwaith Atseiniau. Bydd y prosiect yn darparu cefnogaeth, mentora a hyfforddiant i grwpiau treftadaeth i ddysgu sgiliau newydd ac i gynnwys amrediad mwy o bobl i sicrhau dyfodol cynaliadwy. Bydd yn cyfrannu i ddatblygu mudiad eco-amgueddfa Sir Benfro i wneud twristiaeth treftadaeth yn brofiad seiliedig ar ardal a thrwy’r flwyddyn. Wrth harneisio technoleg ddigidol i ddehongli casgliadau a threialu technegau newydd, bydd yn helpu creu cynnyrch twristiaeth arloesol, o ansawdd uchel.

Cyflawniadau prosiect:

Bydd y prosiect yn gweithio’n agos gyda phum cymuned i archwilio defnydd digidol mewn cyd-destun treftadaeth ac i gyflawni rhaglen hyfforddi wedi ei theilwra at anghenion cymunedau, fel eu bod yn teimlo’n hyderus a medrus i ddatblygu eu syniadau digidol i gynnyrch twristiaeth treftadaeth.  Bydd y prosiect yn cipio gwersi digidol ac yn bwydo i mewn i’r cam nesaf ac i’r Pecyn Offer Eco-Amgueddfa. Bydd y prosiect hefyd yn hwyluso ‘Rhwydwaith Atseiniau’, rhannu syniadau a mentora cyfoed i gyfoed.

Buddiolwyr y prosiect:

Cymunedau sy’n ymwneud â’r prosiect, hen ac ifanc; yn ogystal ag ymwelwyr i’r ardal.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top