Tai lleol dan arweiniad y gymuned ar yr agenda gyda Gweinidog Tai Cymru

Yn ddiweddar, mae PLANED wedi cyfarfod â Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, i drafod cynnydd a chynlluniau ar gyfer dyfodol prosiect Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro PLANED.

Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol (CLT) Sir Benfro yn brosiect sydd wedi ei ariannu gan LEADER, ac wedi ei weinyddu gan PLANED. Mae CLT Sir Benfro yn gweithio gyda chymunedau i ddarparu cartrefi gwirioneddol fforddiadwy a fydd yn fforddiadwy yn barhaol, sy’n eiddo i bobl leol ac yn cael eu rhedeg gan bobl leol ar gyfer pobl leol, ac yn cynhyrchu incwm i’w cymunedau.

Mae llwyddiannau diweddar Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro yn cynnwys cydweithio â CLT Wessex yn ne-orllewin Lloegr, sydd yn un o arweinwyr y maes yn y DU.

Croesawodd tîm CLT PLANED arbenigwyr tai o Lundain a de-orllewin Lloegr am seminar a gynhaliwyd ar y cyd rhwng PLANED a Chyngor Sir Penfro. Arddangosodd prif siaradwyr o CLT Wessex, Cyngor Dinas Bryste a’r Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Genedlaethol fodelau enghreifftiol o dai a arweinir gan y gymuned a ddarperir gan bobl leol.

Mae’r tîm CLT wedi gweithio gyda Chyngor Cymuned Solfach yn llwyddiannus i wneud cynlluniau am CLT newydd i ddarparu tai fforddiadwy. Bydd CLTs Sir Benfro nawr yn derbyn tua £3m gan Gyngor Sir Penfro.

Mae Arweinydd y Prosiect CLT, Jo Rees-Wigmore wedi bod yn cyfarfod â chymunedau ledled y sir, gan gynnwys ym Moncath a’r Garn, i drafod sefydlu CLTs lleol yn Sir Benfro.

Mae Arwain Sir Benfro – y Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) ar gyfer Sir Benfro, a weinyddir gan PLANED, wedi darparu £60,410 i ddatblygu prosiect Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro. Ariennir hyn trwy’r rhaglen LEADER, sy’n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top