Rhannu hanes lleol yn ddigidol

Arddangosodd Grŵp Hanes y Pum Cymuned eu dulliau digidol arloesol o gyflwyno treftadaeth yn Sir Benfro yn y gynhadledd Gorffennol Digidol.

Cynhadledd ddigidol flynyddol sy’n cael ei threfnu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw Gorffennol Digidol, sy’n arddangos technolegau a thechnegau digidol arloesol ar gyfer cipio data, dehongli a lledaenu treftadaeth Cymru, y DU a thu hwnt.

Mae Grŵp Hanes y Pum Cymuned yn brosiect peilot wedi’i leoli yn Sir Benfro, fe’i crëwyd i sicrhau bod y nifer fawr o gasgliadau unigryw a phwysig yn hanesyddol sydd gan gymdeithasau treftadaeth a hanes unigol ledled Cymru yn cael eu cofnodi a’u rhannu â’r cyhoedd. Mae’r grŵp yn helpu i gefnogi, datblygu a chynyddu mynediad i dreftadaeth leol.

Dywedodd Liz Rawlings o’r Grŵp Pum Cymuned: “Ar hyn o bryd, mae dau Archifydd Digidol wrthi’n cofnodi’r holl wybodaeth sydd ar gael i safon broffesiynol gan ddefnyddio system Dublin Core, sy’n gydnaws â llawer o Archifau Cymru.

Y prif amcan yw creu mynediad ledled y byd i wybodaeth Grŵp Hanes y Pum Cymuned yn Sir Benfro gan ddefnyddio technoleg gyfredol i gatalogio a chofnodi eu casgliadau yn ddigidol. Mae hyn yn cynnwys creu gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i’r wybodaeth hon yn glir, yn gywir ac ar unrhyw adeg.

Y nod yn y pen draw felly yw bod y wybodaeth hon ar gael i gynifer o bobl â phosibl – myfyrwyr, haneswyr, ymchwilwyr, achyddion. Bydd y gwaith hefyd ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru.”

Mae Arwain Sir Benfro – y Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) ar gyfer Sir Benfro, a weinyddir gan PLANED, wedi darparu cyllid o £43,932 i Grŵp y Pum Cymuned ar gyfer eu Prosiect Rhannu Hanes Lleol. Ariennir hyn trwy’r rhaglen LEADER, sy’n rhan o Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd cynhadledd Gorffennol Digidol 2020 yn nhref glan môr Fictoraidd Aberystwyth, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae Canolfan y Celfyddydau, y fwyaf yng Nghymru, yn ganolfan celfyddydau sydd wedi ennill gwobrau ac fe’i cydnabyddir yn genedlaethol fel canolfan flaenllaw ac arloesol ym myd y celfyddydau’.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top