Penodi Cydlynydd Prosiect LEADER newydd yn PLANED

Ymunodd Alice Coleman â PLANED ym mis Awst, fel Cydlynydd LEADER, a bydd hi’n cefnogi’r broses o weithredu’r Strategaeth Datblygu Lleol yn llwyddiannus ar gyfer y rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Yn ei swydd fel Swyddog Datblygu gyda Lantra, roedd Alice yn cefnogi busnesau garddwriaeth masnachol i fod yn fwy cynhyrchiol, proffidiol ac yn barod i wynebu’r heriau o’u blaen.

Cyn ymuno â Lantra, roedd Alice yn gweithio gyda Chydweithfeydd Bwyd Cymunedol Cymru gan weithio gyda thyfwyr a chyflenwyr ledled Cymru ac adeiladu capasiti o fewn cadwyni cyflenwi lleol, ac mae ganddi set sgiliau amrywiol gyda chefndir gyrfaol mewn Paru Busnes Adnoddau Dynol yn cynnwys datblygu prosiectau a busnesau.

Fel Grŵp Gweithredu Lleol dros Sir Benfro, daw Arwain Sir Benfro â chyfuniad o gynrychiolwyr y gymuned leol, busnesau, partneriaid yn y trydydd sector a’r awdurdod lleol ynghyd.

Ar hyn o bryd mae Arwain Sir Benfro yn cefnogi dros 65 syniad prosiect o grwpiau cymuned leol, sefydliadau a busnesau. Ariennir hyn trwy’r rhaglen LEADER, sy’n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae LEADER yn cefnogi bob math o weithgareddau: mentora, hyfforddi, astudiaethau dichonoldeb neu brosiectau peilot sy’n rhoi syniad arloesol newydd dan brawf. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer prosiectau sy’n gwella sgiliau lleol, gwneud defnydd gwell o adnodd lleol neu wireddu potensial economaidd rhan o’r gymdogaeth gan arwain at ganlyniad neu gynnyrch ‘newydd’.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich prosiect parhaus sy’n cael ei ariannu gan LEADER – cysylltwch â’r tîm drwy e-bostio LEADER@planed.org.uk

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top