Mae PLANED yn sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Hwb Bwyd Rhanbarthol newydd

Mae PLANED, sefydliad cymunedol arweiniol gorllewin Cymru, wedi cael caniatâd Llywodraeth Cymru i gyflwyno Menter Dosbarthu Bwyd yng Nghymunedau Cymru gan weithredu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Dywedodd Alice Coleman, Cydlynydd y Prosiect, “Mae hwn yn brosiect cychwynnol gwych a fydd yn gweithredu model dosbarthu hyblyg, cynhwysol, cynaliadwy yn amgylcheddol ac yn economaidd, gan uno grwpiau cymunedol, cynhyrchwyr bwyd a chyflenwyr yng Nghymru sy’n ysgogi cadwyni bwyd.

O dan arweiniad PLANED, mae’r prosiect wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygiad Cymunedau Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan

Gronfa Amaethyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig (EAFRD), Llywodraeth Cymru a Menter Hybiau Bwyd Cymunedol, er mwyn ymateb i adferiad Covid 19 a galluogi cymunedau ar draws de orllewin Cymru i gyrchu bwyd iach a fforddiadwy.

Dywedodd Iwan, Thomas y Prif Swyddog Gweithredol: “Wrth i PLANED barhau i symud ymlaen gyda chriw sylweddol o weithwyr medrus yn gweithio gyda phartneriaid, bydd y prosiect hwn yn ychwanegu gwerth aruthrol at y tair sir yng ngorllewin Cymru. Fel y gwelsom yn ystod cyfnodau clo diweddar, mae cadwyni cyflenwi a tharddiad cynnyrch wedi dod yn fwyfwy pwysig, a bydd y prosiect newydd nid yn unig yn cefnogi hynny, ond hefyd yn awyddus i ychwanegu gwerth at ein heconomïau lleol a llesiant ehangach o fewn y cymunedau hynny.”

Os hoffech ddysgu mwy am y prosiect, ewch i: https://www.communityfood.wales/

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top