Mae Planed yn dymuno penodi Swyddog Prosiect LEADER

Ydych chi’n caru Sir Benfro ac yn frwdfrydig dros ei chymunedau?

Ydych chi eisiau ymuno â sefydliad blaengar, cadarnhaol sy’n perfformio’n dda?

OES?

Os felly, hoffem glywed gennych chi!

Swyddog Prosiect LEADER – 22.5 awr, cyfnod penodol hyd at fis Gorffennaf 2022 (£25,000 pro rata)

Yn ogystal, rydym yn chwilio am Swyddog Prosiect deinamig a threfnus i ymuno â thîm LEADER.  Byddwch yn gyfathrebwr ardderchog gyda llygad craff am fanylder o fewn tîm cyflym ac yn frwd dros ddatblygu cymunedau.

Byddwch yn helpu ac yn arwain prosiectau newydd a phresennol a gefnogir drwy gynllun LEADER Arwain Sir Benfro (ASB) ac yn cefnogi’r gwaith o reoli prosiectau newydd a phosibl a phrosiectau sy’n bodoli eisoes i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni o fewn amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt.

Mae profiad uniongyrchol o gyflawni prosiectau a ariennir, monitro grantiau, gwerthuso a rheoli hawliadau o fewn sefydliad tebyg yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn.

Gweler ein gwefan: www.planed.org.uk am fanylion ynglŷn â sut i ymgeisio.

Os hoffech drafod y rôl hon ymhellach neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch cyn gwneud cais, cysylltwch â Alice Coleman ar 01834 860965 neu e-bost: alice.coleman@planed.org.uk

I lawrlwytho ffurflen gais ar gyfer y, Swyddog Prosiect LEADER cliciwch yma: Ffurflen Gais

I lawrlwytho’r disgrifiad swydd cliciwch yma Swyddog Prosiect LEADER Disgrifiad Swydd

A allwch hefyd gwblhau ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Ffurflen Swydd ac e-bostio hwn gyda’ch cais.

Mae angen e-bostio pob ffurflen gais wedi’i chwblhau at Julie Davies: julie.davies@planed.org.uk

Mae’r rhaglen LEADER yn rhan o Raglen Datblygu Gwledig (RDP) – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD). 

 


SYLWCH Y CANLYNOL YN DILYN:

Fel rhan o’n proses recriwtio, mae’n ofynnol eich bod yn cwblhau ffurflen gais cyflogaeth y cwmni.

Dyddiad cau i dderbyn ffurflenni cais wedi’u llenwi – dydd Gwener 18fed Rhagfyr 2020.

 Noder, oherwydd cyfyngiadau Covid19, bydd y broses gyfweld yn cael ei chynnal ar-lein.  

Bydd cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cynnal ar 7 ac 8 Ionawr 2021.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top