Lansiwyd Map Digi Penfro yn Theatr Gwaun

Cynhaliwyd noson lwyddianus i ddangos ffilm ac i lansio’r prosiect mapio digidol cymunedol Map Digi Penfro yn Theatr Gwaun nos Wener Medi 13eg gyda thua 60 o bobl yn bresennol. Mae’r prosiect yn rhan o’r prosiect Span Digidol a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a rhaglen LEADER Arwain Sir Benfro.  Mae’r prosiect yn ceisio cyfuno’r celfyddydau a thechnoleg er mwyn mynd i’r afael â materion megis ynysu gwledig, unigrwydd a llesiant cymunedol.

Bwriad Map Digi Penfro yw mapio lleoedd Sir Benfro o safbwyntiau niferus ac amrywiol trwy fap rhyngweithiol ar-lein sy’n parhau i fod yn agor i gyfraniadau. Datblygwyd y map gan Bencampwr Digidol Span Digidol, Alan Cameron Willis. Mae Alan wedi ymddeol o’i waith fel rhaglennydd cyfrifiaduron ac yn byw yn Nhrewyddel erbyn hyn. Yn dilyn ei waith ar Fap Hanes Trewyddel, gwahoddwyd Alan gan Span i ddatblygu offeryn mapio ar gyfer Sir Benfro gyfan. Cafodd y map ei brofi dros benwythnos llawn ar ddechrau Mis Gorffennaf yn ardal Garn Fawr, bryngaer o’r Oes Haearn,  ar benrhyn Pencaer. Daeth amrywiaeth o arbenigwyr, yn cynnwys y daearegwr Math Williams, yr archeolegwr Ken Murphy, y Prifardd Mererid Hopwood a’r botanegydd Shani Lawrence, ynghyd â disgyblion o Ysgol Gynradd Wdig a llawer o drigolion lleol, at ei gilydd i fapio’r lleoliad unigryw yma gan lenwi’r map gyda delweddau o flodau a chreaduriaid, ffurfiannau daearegol a ffynhonau hynafol yn ogystal â straeon am le – hyd yn oed barddoniaeth.

Darllen mwy yma: Map Digi Penfro

Mae Map Digi Penfro erbyn hyn i’w weld ar-lein a gellir dod o hyd iddo yma: http://j.mp/mapdigipenfro

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top