Lansio cymorth i entrepreneuriaid gofalu Sir Benfro

Lansiwyd prosiect ‘Adeiladu Capasiti Sir Benfro i Ofalu’ ar 3 Rhagfyr, yn cynnig cymorth am ddim i entrepreneuriaid gofalu Sir Benfro.

Agorwyd y digwyddiad gan Jonathan Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai yng Nghyngor Sir Benfro, a amlinellodd fanteision y prosiect o ran ehangu ystod y gwasanaethau gofal a chymorth lleol i bobl yn Sir Benfro.

Datblygwyd y prosiect yn sgil llwyddiant ‘Community Catalysts’, sefydliad sy’n cefnogi mentrau gofalu yn rhannau gwledig o Loegr. Eglurodd Rhys Davies o Community Catalysts sut mae’r prosiect yng Ngwlad yr Haf wedi creu cyfarwyddiaeth o dros 400 o fentrau dan arweiniad y gymuned, gan ddarparu oddeutu 12,000 awr o ofal yr wythnos.

Bu i rai o fentrau gofalu a chefnogi cyfredol Sir Benfro fynychu’r digwyddiad. Ymysg y rhain oedd mentrau cymdeithasol: Reconnect in Nature CIC a Clynfyw Care Farm CIC; a microfentrau cymunedol: S&A Buddies, Brightest Day, Help at Home, Home Call, a Cariad Companionship – y cwbl yn cynnig gwasanaeth ‘cymorth yn y cartref’, yn ogystal â stiwdio ddylunio ‘Cheese and Pickles’ / Henry Hedgepodge Academy of Art. Gallwch ddysgu rhagor ynglŷn â’r mentrau lleol hyn drwy chwilio am eu gwefan neu dudalen Facebook.

Dywedodd Rhian Bennett, Comisiynydd Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Benfro: “Am straeon ysbrydoledig gan y mentrau sydd eisoes wedi’u sefydlu yn Sir Benfro! Rwy’n edrych ymlaen at y flwyddyn newydd a sgyrsiau, cyfleoedd a mentrau newydd.”

Daeth arweinwyr y prosiect, Lee James a Liz Cook, â’r digwyddiad i ben drwy amlinellu’r nod nesaf, sef creu cyfarwyddiaeth leol o fentrau gofalu a chefnogi i drigolion Sir Benfro gael mynediad atynt.

Os ydych chi’n fenter gofalu neu gymorth cyfredol yn Sir Benfro neu os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu un, cysylltwch â Liz Cook Liz.Cook@pavs.org.uk ynglŷn â mentrau cymdeithasol neu Lee James leej@planed.org.uk ynglŷn â micro-fentrau cymunedol.

Mae Arwain Sir Benfro – y Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) ar gyfer Sir Benfro, a weinyddir gan PLANED, wedi darparu £155,218 o gyllid i PAVS ar gyfer y prosiect Adeiladu Capasiti Sir Benfro i Ofalu. Ariennir hyn trwy’r rhaglen LEADER, sy’n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.  Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru wedi cyfrannu arian cyfatebol.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top