Fideo i amlygu gwaith prosiect Span Arts’ Digidol

Mae’r tîm LEADER wedi bod yn brysur yn creu astudiaeth achos fideo newydd yn manylu’r gwaith anhygoel mae Span Arts wedi’i gyflawni fel rhan o’r Prosiect Celfyddydol #Digidol.

Ymwelodd Kathryn Lambert, Rheolwr Span Arts â’r stiwdio recordio yn PLANED yr wythnos hon i sgwrsio ynghylch sut mae’r prosiect celfyddydol digidol uchelgeisiol wedi helpu i ddatblygu ffordd newydd o gyflwyno gwasanaethau diwylliannol i gymunedau gwledig ar draws Sir Benfro gyfan. Dywedodd Kathryn wrthym “Mae’r prosiect wedi ein galluogi ni i roi gwasanaethau dan brawf a oedd yn agor y drws at ddiwylliant ar draws Sir Benfro gyfan. Dyma’r amser delfrydol i dechnoleg ddigidol gynorthwyo gydag ymgysylltu’r gymuned gyda’i gilydd.”

Ariannwyd y prosiect drwy’r rhaglen LEADER, rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid gan LEADER hefyd wedi helpu Span Arts i gael cyllid cyfatebol o £30,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru tuag at y prosiect.

Bydd y fideo dogfennol byr ar gael i’w wylio ar ein tudalen Cyfryngau newydd yn fuan.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top