Digwyddiad Zoom Prosiectau LEADER

Trwy eich profiadau a rennir a'ch dysgu, byddwn yn archwilio a oes yna botensial i weithio ar y cyd ar draws prosiectau, ac os felly, pa gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch gennym ni, a pha gyfleoedd i’r dyfodol a allai ddod yn amlwg.

Wedi cau eich prosiect eisoes? Byddwn yn eich croesawu chi i ymuno â ni i rannu eich profiad, a gweld sut all hyn gefnogi prosiectau posib presennol ar gyfer y dyfodol.

Un o nodau allweddol LEADER yw rhannu dysgu ac wrth i ni symud at ddiwedd y rhaglen, ein nod yw dal y wybodaeth hon er budd y prosiectau yn ogystal â rhoi adborth i’n cyllidwyr.

Rydym yn falch y bydd Lee James o brosiect Catalyddion Gofal LEADER yn ymuno â ni ar y sesiwn dydd Mawrth i roi trosolwg o daith ei brosiect, a’i brofiad o ddatblygu prosiect effeithiol yn Sir Benfro cyn ac yn ystod y pandemig COVID-19.

Ar y dydd Iau bydd Emma Baines yn trafod ei phrosiect digidol Menywod Gorllewin Cymru (WOWW) trwy Amgueddfa Arberth.

 

I archebu eich tocyn AM DDIM ewch i:

Dydd Mawrth 9 Chwefror 10:30am - 11.30am        

www.eventbrite.co.uk/e/136939123605

 

Dydd Iau 11 Chwefror 4.30pm - 5.30pm

www.eventbrite.co.uk/e/137244220157

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top