Cynrychioli Arwain Sir Benfro mewn cyfarfod Ewropeaidd ar newid yn yr hinsawdd

Yn ddiweddar mae staff LEADER wedi cymryd rhan mewn Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Labordy Thematig Datblygu Gwledig (ENRD) LEADER ar liniaru ac addasu newid yn yr hinsawdd. Fel yr unig gynrychiolydd o’r DU, roedd Arwain Sir Benfro yn rhan o banel gyda chynrychiolwyr Grwpiau Gweithredu Lleol o Ffrainc, Sweden, Catalonia a Gwlad Belg.

Roedd Labordy Thematig ENRD LEADER yn gofyn i randdeiliaid archwilio, trafod a rhannu eu profiadau a’u dulliau. Bu’r cyfranogwyr yn trafod awgrymiadau ymarferol ar sut all LEADER fod yn ddechreuwr, cynllunydd, hwyluswr a chefnogwr ar gyfer gweithredu dros yr hinsawdd yn ein hardaloedd gwledig lleol.

Roedd y digwyddiad yn cynnig cyfle i dynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei arwain gan y gymuned yn Sir Benfro ac yn cael ei gefnogi gan LEADER, yn ogystal â chysondeb egwyddorion LEADER â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd â’r nod, ymysg pethau eraill, i newid y ffordd mae cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniad ac yn darparu gwasanaethau ledled Cymru.

Yn y cyfarfod tynnwyd sylw at yr elfennau o ganiatau fframwiath LEADER ar gyfer llywio a chefnogi gwaith LAG’s gyda gweithredu dros yr hinsawdd yn lleol. Roedd hyn yn cynnwys adnabod ffactorau llwyddiannus a’r gwersi a ddysgwyd yn y cyfnod rhaglennu hwn a sut ellir defnyddio’r rhain yng nghyd-destun Cynlluniau Strategol CAP yn y dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth am y cyfarfod ac i weld yr adroddiadau a gynhyrchwyd, ewch i wefan ENRD yma.

PLANED yw’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y rhaglen LEADER, gan helpu Arwain Sir Benfro i ddarparu’r cyllid yn y sir.

Sicrhaodd Arwain Syr Benfro, y Grŵp Gweithredu Lleol yn Sir Benfro dros £ 3,300,000 o gyllid wedi’i sicrhau i gefnogi prosiectau sy’n profi syniadau newydd sydd o fudd i Sir Benfro ac yn cyfrannu at economi gystadleuol, gynhyrchiol a chynaliadwy yn Sir Benfro.

Ariennir hyn trwy’r rhaglen LEADER, sy’n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top