Cyfarfod cyhoeddus Boncath ar gyfer tai a arweinir gan y gymuned

Llun: Cyfarfod ag Wessex CLT ac aelodau o Gyngor Cymuned Boncath – ynghyd â Jo Rees a Cris Tomos o PLANED

Mae Cymuned Boncath un cam yn nes at lansio prosiect tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yn dilyn cyfarfod diweddar i ffurfio Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol (CLT) leol. Mae staff prosiect Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol PLANED wedi bod yn gweithio â Chyngor Cymuned Boncath i ddatblygu cynlluniau ar gyfer CLT. Mae PLANED yn gweithio gyda chynrychiolwyr o Wessex CLT i rannu a datblygu arfer da mewn datrysiadau tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned ar gyfer Sir Benfro.

Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol (CLT) Sir Benfro yn brosiect sydd wedi ei ariannu gan LEADER, ac wedi ei weinyddu gan PLANED. Mae CLT Sir Benfro yn gweithio gyda chymunedau i ddarparu cartrefi gwirioneddol fforddiadwy sy’n fforddiadwy yn barhaol, sy’n eiddo i ac yn cael eu rhedeg gan bobl leol, i bobl leol, gan gynhyrchu incwm i’w cymunedau. Roedd Wessex wedi eu llethu gan y weledigaeth ac yn falch o gael eu cyflwyno i gymaint o bobl ysbrydoledig yn gweithio dros y gymuned.

Dywedodd Swyddog Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro, Jo Rees-Wigmore: “Rydym wedi gwirioni i gael y datblygiad CLT hwn ym Moncath. I helpu cymunedau greu datrysiadau tai fforddiadwy i bobl leol na fyddai’n gallu byw yn y gymuned ble cawsant eu magu fel arall.  Drwy wneud hyn, rydym yn creu cymunedau cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at gefnogi’r Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol hon ar gyfer Boncath.”

Cynhelir cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Boncath ar 4 Medi am 7pm, mae croeso i holl aelodau’r gymuned fynychu a chlywed mwy am y datblygiad cyffrous hwn.

Mae Arwain Sir Benfro – y Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) ar gyfer Sir Benfro, a weinyddir gan PLANED wedi rhoi £60,410 o gyllid i ddatblygu prosiect Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro. Ariennir hyn trwy’r rhaglen LEADER, sy’n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol, cysylltwch â Jo Rees-Wigmore ar 07990 761386.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top