Astudiaeth Ddichonoldeb ar Fodelau Logisteg Cynaliadwy o Ddosbarthu Bwyd yn Ne- Orllewin Cymru

Mae Cyngor Sir Ceredigion, ar ran Grwpiau Gweithredu Lleol LEADER y Cynllun Datblygu Gwledig yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi comisiynu Miller Research i gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar fodelau logisteg cynaliadwy o ddosbarthu bwyd yn y tair sir uchod.

Fel rhan o’r ymchwil, rydym yn dosbarthu arolwg defnyddwyr ar-lein i bobl sy’n byw yn y rhanbarth ynghylch prynu bwyd lleol, i ddeall yn well y patrymau prynu presennol, yn ogystal â chymhellion allweddol i brynu’n lleol a rhwystrau rhag gwneud hynny.

Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 10 munud a bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn cael ei chadw’n gyfrinachol heb i unigolion gael eu hadnabod wrth gasglu gwybodaeth o’r arolwg.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

https://www.smartsurvey.co.uk/s/SKO4KL/

 

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top