Adeiladu Capasiti Sir Benfro i Ofalu

Ydych chi’n fusnes gofal neu gymorth yn Sir Benfro – neu oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau un?

Mae prosiect i gefnogi mentrau lleol sy’n helpu pobl i fyw’n annibynnol ac yn llwyddiannus ar eu pen eu hunain yn eu cymunedau a’u cartrefi eu hunain, wedi cael cyllid LEADER gan Arwain Sir Benfro.

Bydd y prosiect ‘Adeiladu Capasiti Sir Benfro i Ofalu’ yn cael ei lansio ar ddydd Mawrth 3 Rhagfyr, ac yn cael ei ddarparu gan PAVS a PLANED, gyda chefnogaeth Catalyddion Cymunedol a Chyngor Sir Penfro. Mae’r prosiect yn cefnogi dau fath o fenter: micro-fentrau cymunedol a mentrau cymdeithasol.

Mae micro-fentrau cymunedol yn fusnesau gofal neu gymorth annibynnol, bychan, sy’n cyflogi llai nag wyth person. Maent yn cynnig ystod eang o wasanaethau a all gynnwys cymorth wrth baratoi prydau, glanhau, cwmni, cael mynediad at weithgareddau a grwpiau cymdeithasol a gofal personol.

Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau nid er elw sydd yn ail-fuddsoddi y rhan fwyaf o’u helw er mwyn cyflawni cenhadaeth gymdeithasol, fel cefnogi pobl gydag amryw o anghenion fel anableddau dysgu neu ddementia. Fel arfer, mae mentrau cymdeithasol yn fwy na micro-fentrau cymunedol, a gallant wneud cais am gyfleoedd cyllid.

Mae’r ‘Catalyddion Cymunedol’, Liz Cook o PAVS a Lee James o PLANED yn gweithio i arwain y prosiectau micro-fenter-cymunedol, yn cefnogi mentrau newydd a mentrau sefydledig o ran dechrau a datblygu.

Cynhelir y digwyddiad rhad ac am ddim i lansio’r prosiect yn Neuadd y Gymuned Crundale ar ddydd Mawrth 3 Rhagfyr, 2.00 – 4.15pm (te, coffi a chacen o 1.30pm). Mae’r digwyddiad yn gyfle i:

  • Ddysgu am weledigaeth Sir Benfro o adeiladu rhwydwaith o ficro-ddarparwyr gofal a chymorth a chyfleoedd ar gyfer mentrau newydd
  • Dysgu am y gefnogaeth sydd ar gael i ddechrau micro-fentrau a mentrau cymdeithasol newydd a sut i ddatblygu rhai sy’n bodoli eisoes, sy’n cefnogi pobl i fyw’n annibynnol ac yn llwyddiannus yn eu cymunedau a’u cartrefi eu hunain
  • Cwrdd â rhai o’n micro-fentrau cymunedol a chymdeithasol a dysgu am y cymorth maent yn darparu o fewn ein cymunedau
  • Helpu i lunio dyfodol y prosiect drwy rannu eich dealltwriaeth o’r bylchau a’r cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau newydd yn Sir Benfro
  • Rhwydweithio a gwneud cysylltiadau

I gofrestru eich lle yn y digwyddiad, ewch i http://tiny.cc/capcitytocare

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y prosiect ‘Adeiladu Capasiti Sir Benfro i Ofalu’, cysylltwch â Liz Cook Liz.Cook@pavs.org.uk ynghylch mentrau cymdeithasol neu Lee James leej@planed.org.uk ynghylch micro-fentrau cymunedol.

Mae Arwain Sir Benfro – y Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) ar gyfer Sir Benfro, a weinyddir gan PLANED, wedi darparu £155,218 o gyllid i PAVS ar gyfer y prosiect Adeiladu Capasiti Sir Benfro i Ofalu. Ariennir hyn trwy’r rhaglen LEADER, sy’n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.  Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru wedi cyfrannu arian cyfatebol.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top