Fforwm Arfordir Penfro Datblygiad Cadwyn Gyflenwi Ynni’r Môr

Busnes

Disgrifiad o'r Prosiect:

Bydd y cyfle sector ynni adnewyddadwy’r môr (MRE) yn darparu arallgyfeirio a chlystyru’r gadwyn gyflenwi i gefnogi Sir Benfro. Mae busnesau yn Sir Benfro mewn safle da i dyfu eu busnes yn y sector mewn meysydd allweddol fel sylfaeni, gweithrediadau morol, gwasanaethau ymgynghori, caniatâd a chydrannau. Bydd y prosiect Datblygiad Cadwyn Gyflenwi yn darparu dealltwriaeth llinell sylfaen o’r gadwyn gyflenwi MRE yng Nghymru, gan nodi’r cwmnïau hynny sydd eisoes yn gweithio yn y sector a’r rhai gyda photensial cryf i arallgyfeirio.

Canlyniadau'r Prosiect:

Nod y prosiect hwn oedd hyrwyddo ynni adnewyddadwy morol fel cyfle i gwmnïau cadwyn gyflenwi lleol gael amrywiaeth i sectorau ynni tanwydd ffosil traddodiadol, i ffwrdd ohonynt.  Mae adroddiad a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r prosiect hwn wedi canfod bod y sector eisoes yn cefnogi 137 o swyddi cyfwerth ag amser llawn a 350 o flynyddoedd person o gyflogaeth ledled Cymru.  Drwy arallgyfeirio i'r sector carbon isel newydd hwn, mae cyfleoedd i ddarparu swyddi ac incwm hirdymor, cynaliadwy i fusnesau lleol a hyrwyddo mewnfuddsoddiad i ddiwydiant ynni adnewyddadwy.

Gwersi a Ddysgwyd:

Roedd llwyddiant y digwyddiad cyntaf yn dangos y byddai cyfleoedd rhwydweithio pellach o fudd i adeiladu ar y wybodaeth a ddysgwyd a'r cysylltiadau a wnaed.  Hefyd, byddai angen edrych ar y gwaith o farchnata'r digwyddiad hwn.

"Canfu'r prosiect fod sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy sefydledig yn Sir Benfro mewn lleoliad delfrydol gyda chyfleusterau porthladd a hyb peirianneg.  Mae'r prosiect hwn wedi gweithio i ganolbwyntio sylw'r cwmnïau medrus hyn yn y sector newydd hwn er mwyn cadarnhau sefyllfa Cymru fel arweinydd drwy alluogi'r diwydiant i wneud y camau hollbwysig tuag at ddefnyddio masnachol."

Manylion Cyswllt:

Enw llawn:

Louise Rigby Williams

Rhif Cyswllt:

01646 405695

Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Back to top