Pecyn Cymorth Gweddnewid Lleoedd (Cyngor Sir Penfro)
Busnes
Disgrifiad o'r prosiect:
Nod y prosiect hwn yw datblygu presenoldeb ar y we, o fewn prif safle Cyngor Sir Penfro (CSP); ei ddiben fydd dylunio a chreu adnodd ar y we ar gyfer datblygu cymunedau.
Cyflawniadau prosiect:
Bydd y pecyn cymorth yn cael ei ddefnyddio i annog a galluogi aelodau o gymunedau i gymryd mwy o ran mewn cynlluniau adfywio, gweithgareddau cymdeithasol a phrosiectau amgylcheddol lleol.
Buddiolwyr y prosiect:
Bydd yn darparu gwybodaeth y gall grwpiau cymunedol ac unigolion gael gafael arni’n rhwydd, i ddatblygu prosiectau busnes a chymunedol, gan helpu ardaloedd i ddod yn fwy ffyniannus. Bydd cyfleoedd i rwydweithio, rhannu syniadau a chyfnewid sgiliau, wedi’u hwyluso gan y pecyn cymorth, yn ysgogi ac annog mwy o bobl i gymryd rhan ac yn hyrwyddo prosiectau a syniadau ar raddfa eang.
Kevin Shales and Sinead Henehan
01437 775536 / 01437 775540
kevin.shales@pembrokeshire.gov.uk | Sinead.henehan@pembrokeshire.gov.uk